loading

Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau—cynllun gweithredu ar gyfer Cymru

Adroddiad Blynyddol 2016/17

Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau—cynllun gweithredu ar gyfer Cymru

Creadigrwydd a'r rôl y gall y celfyddydau ei chwarae o ran cryfhau addysg sydd wrth wraidd y rhaglen arloesol, Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau—cynllun gweithredu ar gyfer Cymru 2015-2020; bwrlwm o weithgaredd helaeth gwerth £20 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae'r rhaglen feiddgar ac uchelgeisiol hon yn rhoi'r cyfle i ni ailystyried y ffordd yr ydym yn meddwl am y rôl y mae creadigrwydd yn ei chwarae ym mywydau ein pobl ifanc a sut rydym yn cefnogi hynny.

Dylai dysgu am y celfyddydau a diwylliant, cymryd rhan yn y celfyddydau a datblygu sgiliau creadigol fod yn nodwedd amlwg o addysg pob plentyn a pherson ifanc. Dyma'r elfennau hanfodol ar gyfer profiad dysgu cyflawn, boddhaus ac ysgogol. Ar ben hynny, dim ond drwy gael profiadau creadigol celfyddydol o ansawdd uchel mewn ysgolion, drwy eu gwerthfawrogi a rhoi lle teilwng iddynt yn ein cwricwlwm, drwy sicrhau eu bod ar gael i bob plentyn, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, y gallwn feithrin potensial ein dysgwyr a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer ein heconomi.

Ym mis Mawrth 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymateb i Adroddiad yr Athro Dai Smith ar yr adolygiad o'r Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru (2013) gan gytuno i bob un o'r deuddeg argymhelliad. Gwnaethom addewid i ddatblygu cynllun a fyddai'n cadarnhau'n ffurfiol y rôl ganolog yr ydym yn ei rhagweld ar gyfer addysg gelfyddydol yn ysgolion Cymru, a fyddai hefyd yn cyflawni ymrwymiad i gynyddu cyfranogiad a datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y celfyddydau a phobl ifanc.

Mae dysgu creadigol drwy'r celfyddydau yn rhoi cyfle i bob ysgol yng Nghymru ddechrau'r broses o weithio tuag at integreiddio'r agweddau creadigol ar bedwar diben Cwricwlwm i Gymru: Cwricwlwm am Oes.

Rhennir y rhaglen yn ddau brif gonglfaen:

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar ail flwyddyn Dysgu Creadigol drwy'r celfyddydau—cynllun gweithredu ar gyfer Cymru.

Bwrlwm o weithgaredd helaeth gwerth £20 miliwn ar draws pum mlynedd, wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cyflawniadau yn 2016/17

ysgolion yn cymryd rhan mewn prosiectau Rownd 3 y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

18

Rhoddwyd cymorth ysgol-i-ysgol i ysgolion yn Rownd 1 gan gynnwys 23 o ysgolion ychwanegol yn y rhaglen
Lansiwyd maes cymorth ysgol-i-ysgol y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

Celc

Lansiwyd Pecyn Gwybodaeth y Celfyddydau, Llythrennedd a Rhifedd ym mis Mai 2017
Cwblhawyd rownd gyntaf ein Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol
o Asiantau Creadigol wedi'w hyfforddi
Cyhoeddwyd Theori Newid ym mis Gorffennaf 2017: Ein hadroddiad gwerthuso annibynnol cyntaf
Ymrwymodd Rhwydweithiau Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg i boblogi'r Parth Dysgu Creadigol

33

derbyniwyd ceisiadau am gymorth ysgol-i-ysgol

31

o Hyrwyddwyr y Celfyddydau wedi eu recriwtio ar draws y pedwar Rhwydwaith Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg

o grantiau wedi'w dyfarnu drwy ein cynllun ariannu Ewch i Weld
Cefnogwyd y gwaith o hyrwyddo Gyrfaoedd yn y Diwydiant Creadigol yn nigwyddiad SkillsCymru 2016

Nodau ar gyfer 2017-18

Cefnogi 18 o brosiectau datblygu ysgol-i-ysgol y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sy'n gweithio gyda 23 o ysgolion ychwanegol ledled Cymru
Hyfforddi dros 700 o athrawon yn y garfan olaf o Ysgolion Creadigol Arweiniol
Cynhyrchu cyfres o bedwar fideo astudiaeth achos sy'n olrhain effaith Dysgu Creadigol drwy ein Hysgolion Creadigol Arweiniol yn Rownd 3
Cefnogi'r gwaith o hyrwyddo Gyrfaoedd yn y Diwydiant Creadigol yn nigwyddiad SkillsCymru 2017
12
Dyfarnu oddeutu 12 o geisiadau am gymorth ysgol-i-ysgol newydd
Darparu hyfforddiant Ymarferydd Creadigol fel rhan o'r cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol
Dangos cyfoeth yr hyn a ddysgwyd o ganlyniad i'r Cynllun Ysgolion Arweiniol Creadigol yn rhaglen gyfnewid TATE ym mis Ebrill 2018
Cyhoeddi adroddiad ar gyfranogiad Cymru ym mhrosiect creadigrwydd a meddwl yn feirniadol yr OECD

220

Cefnogi ein trydedd rownd a'r rownd derfynol o 220 o Ysgolion Creadigol Arweiniol

Darparu hyfforddiant Ysgolion Creadigol Arweiniol i 20 o gynrychiolwyr o'r sector diwylliant a threftadaeth
Cyhoeddi ein hail adroddiad gwerthuso annibynnol

Cefnogi ein Rhwydweithiau Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg i:

Cynnal 1 digwyddiad cenedlaethol
Sicrhau bod 32 o Hyrwyddwyr Celfyddydau ar gael i ysgolion ledled Cymru
Darparu 50 o gyfleoedd DPP i athrawon ac artistiaid ledled Cymru
Cynhyrchu cynnwys a rhannu arferion gorau ar y Parth Dysgu Creadigol
Darparu 13 o gyfleoedd rhwydweithio i athrawon ac artistiaid ledled Cymru

Cefnogi ein cronfa Profi'r Celfyddydau drwy:

125
Ddyfarnu cyllid i tua 125 o geisiadau i'r gronfa Ewch i Weld
Dyfarnu hyd at 25 o grantiau Cydweithio Creadigol

Ysgolion Creadigol Arweiniol

Mae'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn arwain y ffordd o ran sut rydym yn cefnogi ysgolion i ddatblygu prosiectau pwrpasol sydd â'r nod o wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu.

Prif nod y cynllun, yn ogystal â gwella cyrhaeddiad, yw gwella llythrennedd a rhifedd drwy ddulliau dysgu creadigol.

Mae ysgolion yn ymuno â rhaglen hirdymor sy'n eu cefnogi i:

Mae ysgolion yn cael eu paru â gweithwyr proffesiynol creadigol sy'n defnyddio technegau addysgu a dysgu sydd wedi'u cynllunio'n benodol i fod yn ymarferol ac yn berthnasol i ofynion go iawn y cwricwlwm. Wrth wraidd y prosiectau hyn mae dewis a llais dysgwyr. Mae'r bartneriaeth gydweithredol rhwng gweithwyr proffesiynol creadigol, staff yr ystafell ddosbarth a dysgwyr, yn dod â'r cwricwlwm yn fyw ac yn darparu ffyrdd newydd i ddysgwyr ymgysylltu â phynciau a datblygu mwy o gymhelliant i ddysgu

Cipolwg

210
Rydym bellach yn gweithio gyda chyfanswm o 210 o Asiantau Creadigol, ar draws prosiectau rowndiau 1-3
12,000
o ddisgyblion a gymerodd ran mewn cyfleoedd dysgu creadigol yn ystod y 2 rownd gyntaf
279
Ysgolion Arweiniol Creadigol a gafodd eu recriwtio yn ystod y ddwy rownd gyntaf

£4.2m

wedi ei fuddsoddi yn ein cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

409

prosiectau wedi eu harwain gan gelfyddydau creadigol mewn ysgolion

548

ysgolion sy'n elwa o'r cynllun ar hyn o bryd, naill ai fel Ysgol Arweiniol Greadigol neu fel rhan o'n datblygiad ysgol i ysgol

3,714

diwrnodau hyfforddi ar gyfer 937 a 710 o weithwyr proffesiynol creadigol

Adborth gan ddisgyblion

"Roeddwn i'n teimlo fy mod i eisiau dod i'r ysgol i wneud y prosiect; cyffrous, brwdfrydig, egnïol."

"Roeddwn i'n fwy awyddus i ddod i'r ysgol er mwyn gwneud y prosiect."

"Byddwn yn gwneud hyn eto."

"10/10 i'r prosiect hwn, mae'n hwyl."

Adborth gan athrawon

"Mae'r prosiect wedi rhoi'r hyder i mi i ganiatáu i'm gwers gael ei harwain yn fwy gan y disgyblion, ac yn ei dro mae hyn wedi annog lefel ddyfnach o ddysgu. Drwy ganiatáu i'r disgyblion arwain, roedd yn fy ngwneud yn fwy ymwybodol o alluoedd a galluogrwydd y disgyblion."

"Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi ceisio ymgorffori dysgu creadigol ar draws yr ysgol mewn sawl ffordd. Mae'r staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phrosiectau Ysgolion Creadigol Arweiniol wedi cael hyfforddiant ac wedi elwa mewn ffordd ystyrlon o weithio gyda'r ymarferwyr creadigol yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyfforddiant HMS ar gyfer staff eraill yn yr ysgol wedi arwain at drafodaethau ysgol gyfan ynghylch cynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm a thrafodwyd y prosiectau yn fanwl, gyda phwyslais arbennig yn cael ei roi ar y fethodoleg. Mae ein gwaith cynllunio yn seiliedig ar bynciau yn esblygu ac mae'r prosiectau wedi ysbrydoli staff addysgu i ddefnyddio technegau sy'n fwy creadigol er mwyn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ein plant. Ar hyd y daith, mae'r sgiliau o weithio ar y cyd, yn greadigol ac yn annibynnol wedi cael eu cydnabod gan y staff ac maent wedi gwella ymhellach drwy'r dull hwn o ddysgu. "

Dewiswch ranbarth

Cynnig y Celfyddydau ac Addysg Cymru Gyfan

Nod Cynnig y Celfyddydau ac Addysg Cymru Gyfan yw adeiladu ar weithgaredd celfyddydol presennol yng Nghymru a'i wella a chefnogi sefydliadau celfyddydol i froceru a chryfhau eu perthynas ag addysg. Anogir ysgolion a sefydliadau celfyddydol i feithrin perthynas barhaus, sydd o fudd i'r ddwy ochr, a fydd yn eu paratoi ar gyfer yr ymagwedd gydweithredol tuag at addysg a amlinellir yn y cwricwlwm newydd.

Cyflwynir y cynnig mewn dwy ran:

Mae gweld a phrofi gweithgaredd celfyddydol o ansawdd uchel yn un o'r ffyrdd gorau o gyffroi ac ysbrydoli pobl ifanc.

Cipolwg

o grantiau Cydweithio Creadigol wedi'w dyfarnu
Nifer y grantiau Ewch i Weld a ddyfarnwyd yn:
48
Gogledd Cymru
68
Canolbarth a Gorllewin Cymru
44
De-ddwyrain Cymru
17
Canol De Cymru
Ein hymddangosiad cyntaf yn SkillsCymru 2016

10,701

o ddysgwyr y disgwylir iddynt elwa o Ewch i Weld rhwng 1 Medi 2016 a 31 Awst 2017

13
Cyfleoedd rhwydweithio Rhwydweithiau Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg

49

Hyrwyddwyr Celfyddydau Actif ledled Cymru

Celc

Lansiwyd y Pecyn Gwybodaeth Celfyddydau, Llythrennedd a Rhifedd ym mis Mai 2017
Cyfanswm y grantiau Ewch i Weld a ddyfarnwyd
115
Cyfleoedd DPP Rhwydweithiau Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg
Nifer y grantiau Cydweithio Creadigol a ddyfarnwyd yn:
9
Gogledd Cymru
8
Canolbarth a Gorllewin Cymru
8
De-ddwyrain Cymru
2
Canol De Cymru

Cronfa Profi'r Celfyddydau

Mae ystod gyfoethog ac amrywiol o weithgareddau celfyddydol a diwylliannol eisoes ar gael i ysgolion ledled Cymru, ond yr her yw gwneud y gweithgareddau hyn yn fwy hygyrch. Weithiau gall fforddiadwyedd fod yn rhwystr ond gall pethau mor sylfaenol â diffyg cludiant ysgol fod yn rhwystr hefyd.

Ym mis Mawrth 2016, lansiwyd dau faes ein Cronfa Profi'r Celfyddydau, sef 'Ewch i Weld' a 'Cydweithio Creadigol'.

Ewch i Weld

Gall ysgolion wneud cais am grantiau bach, untro o hyd at £1,000 i ariannu ymweliadau unigol â digwyddiadau celfyddydol o ansawdd uchel mewn lleoliadau ledled Cymru. Gallai profiadau Ewch i Weld gynnwys mynd i weld perfformiadau ac arddangosfeydd, neu ymweliadau er mwyn gweld gweithwyr proffesiynol celfyddydol yn datblygu a chreu eu gwaith.

Cydweithio Creadigol

Mae Cydweithio Creadigol yn canolbwyntio ar weithgareddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol sy'n wahanol i weithgareddau cyffredin. Gall ysgolion a/neu sefydliadau celfyddydol wneud cais am rhwng £5,000 a £25,000 i ddatblygu prosiectau mwy uchelgeisiol a pharhaus. Ym mis Ebrill 2017 ail-lansiwyd y gronfa i gynnwys dau faes: Cydweithio Creadigol: Sesiynau Blasu a Cydweithio Creadigol: Prosiectau.

"Wnes i erioed ddychmygu y byddai ein dysgwyr yn eistedd yma yn cael gwers athroniaeth ac yn canolbwyntio'n llwyr drwy gydol y wers!"

"Fe wnes i fwynhau gweithio gyda National Theatre Wales oherwydd cawsom fynegi sut roeddem yn teimlo drwy ysgrifennu cerddi a gwneud llawer o waith budreddi"

"Dyma'r diwrnod gorau erioed!"

"Allwn ni fynd i'r theatr bob wythnos?"

"Rwyf eisiau bod yn actor!"

Rhwydweithiau Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg

Mae'r pedwar Rhwydwaith Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg yn cyflawni elfen fawr o Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau - cynllun gweithredu ar gyfer Cymru. Bellach yn eu hail flwyddyn, mae'r Rhwydweithiau'n llwyddo i ddarparu'r cysylltiad rhwng sefydliadau celfyddydol/diwylliannol ac ysgolion yng Nghymru; gan sefydlu ffyrdd newydd ac arloesol o ymgysylltu â sefydliadau celfyddydol/diwylliannol gydag addysg.

Mae pob un o'r pedwar Rhwydwaith Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg yn cyflawni'r cylch gwaith a ganlyn:

Mae ffiniau'r Rhwydweithiau yn cyfateb â ffiniau'r pedwar Consortiwm Addysg Ranbarthol

Mae gan bob rhanbarth Grŵp Llywio gan gynnwys cynrychiolaeth o'r sectorau celfyddydau ac addysg. Mae'r Rhwydweithiau'n cwrdd yn rheolaidd er mwyn i gydlynwyr allu rhannu gwybodaeth ac osgoi dyblygu ymdrech.

Llwybrau Datblygu/Gyrfa

Rydym yn uchelgeisiol o ran y celfyddydau yng Nghymru a rhan o'n rhaglen yw ein gwaith ar lwybrau datblygu yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol. Y tro cyntaf yr oeddem yn bresennol yn nigwyddiad SkillsCymru yn 2016, roedd gennym bresenoldeb egnïol a roddodd gyfle i 9645 o ddysgwyr gael profiad rhyngweithiol o sgiliau perfformio, digidol a'r celfyddydau gweledol a chymhwysol yn y ddau leoliad yng Ngogledd a De Cymru.

Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau celfyddydol ac unigolion yng Nghymru, cyflwynwyd rhaglen dreigl o berfformiadau byw a chyfleoedd rhyngweithiol wedi'i chynllunio'n ofalus er mwyn i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol wedi'i arwain gan weithwyr proffesiynol.

Gan agor y drws i'r celfyddydau mynegiannol, cafodd y dysgwyr gyfle i:

Ryddhau eu grym creadigol a'u dychymyg drwy ymgysylltu â'r diwydiant creadigol
Archwilio a chyfleu syniadau; meddwl yn creadigol
Cwrdd â gweithwyr proffesiynol creadigol sydd wedi llunio gyrfa yn y diwydiant creadigol yng Nghymru
Gweld perfformiad byw o gronfa dalent gyfoethog Cymru
Deall y Diwydiant Creadigol fel cyfle gyrfa hyfyw drwy ymholi, cyfranogi a phrofiad

Lle y canfuwyd dysgwr â diddordeb mawr yn y maes neu ddysgwyr mwy abl a thalentog, buom yn gweithio gyda Sgiliau Creadigol a Diwylliannol i gyfeirio disgyblion at lwybrau datblygu; gan roi rhagor o wybodaeth am gyfleoedd a dewisiadau gyrfa yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Gan adeiladu ar hyn, rydym hefyd yn bwriadu gweithio gyda Gyrfa Cymru i barhau i hyrwyddo gyrfaoedd yn y sectorau celfyddydau a diwydiannau creadigol

Pecyn Gwybodaeth y Celfyddydau, Llythrennedd a Rhifedd: Celc

Lansiwyd Celc ar 4 Mai 2016. Mae'n adnodd ar-lein sy'n dangos sut y gall y celfyddydau creadigol ddarparu cyfleoedd ysgogol a chyfoethog i helpu athrawon i fodloni gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Rydym am i fwy o athrawon ddefnyddio'r celfyddydau i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd mewn ffyrdd mwy effeithiol a dychmygus. Nod y gweithgareddau yw bod yn gyffrous, yn wreiddiol ac yn hwyl, gyda'r nod o ysbrydoli ymarfer mwy anturus a chreadigol.

Mae'r adnodd wedi'i gynllunio i annog mwy o gydweithio rhwng artistiaid ac athrawon. Ei nod yw datblygu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith athrawon o gyfraniad nodedig a 'gwerth ychwanegol' artistiaid i ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Yn yr un modd, mae'r Pecyn Gwybodaeth yn anelu at wella dealltwriaeth artistiaid o'r ffyrdd y gall eu gweithgareddau mewn ysgolion gefnogi'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Y gynulleidfa darged ar gyfer y Pecyn Gwybodaeth yw athrawon yn y Cyfnod Sylfaen uchaf, CA2 a CA3 ac arlunwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gydag athrawon yn y cyfnodau hyn.

Effaith

Mae Wavehill yn cynnal gwerthusiad annibynnol o'r Rhaglen Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau yn ei chyfanrwydd. Bydd y canfyddiadau o'r adroddiad gwerthuso cyntaf yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2018, ac maent yn cynnwys arwyddion cynnar o'r effaith gadarnhaol y mae'r rhaglen yn ei chael ledled Cymru.

Daw'r darnau canlynol o adran casgliad ac argymhellion yr adroddiad cyntaf hwn. Gellir gweld yr adroddiad llawn yma..

"Er bod y broses werthuso ar gam cynnar, mae canfyddiadau'r cam hwn yn gadarnhaol at ei gilydd, gyda chynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â chyflwyno'r rhaglen a rhywfaint o dystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol yn cael eu cyflawni..."

“Mae maint y rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r celfyddydau yn wahanol i unrhyw beth a gyflwynwyd o'r blaen. Bellach mae cannoedd o athrawon ac Asiantau Creadigol ac Ymarferwyr Creadigol wedi elwa o'r hyfforddiant ac ymagwedd gyson ledled Cymru, o'i gymharu â dim ond dyrnaid o ysgolion yn y gorffennol. Mae'r rhaglen felly yn darparu capasiti yn y sectorau addysg a chelfyddydol nad oedd wedi bodoli o'r blaen...”

“Mae [astudiaethau achos Ysgolion Creadigol Arweiniol] hefyd yn dechrau nodi gwersi pwysig a ddysgwyd, gan gynnwys y canlynol:"

“Mae'r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma yn awgrymu bod y cynllun yn galluogi gweithgareddau newydd a gwahanol i ddigwydd yn yr ysgolion... I gloi, mae'n werth nodi eto yr ewyllys da sylweddol tuag at y rhaglen gan yr holl grwpiau rhanddeiliaid, ac mae cymhelliant cryf a brwdfrydedd tuag at gyflawni uchelgais y rhaglen yn amlwg. Mae hyn yn bositif iawn ac yn argoeli'n dda ar gyfer y camau cyflfawni nesaf.”

Lledaenu'r neges

Strategaeth Gyfathrebu

Mae strategaeth gyfathrebu ar y cyd yn sicrhau bod athrawon, ysgolion a rhanddeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am bob agwedd ar y Cynllun Dysgu Creadigol.

Parth Dysgu Creadigol

Lansiwyd y Parth Dysgu Creadigol ar Hwb ym mis Mawrth 2016. Cydweithio sydd wrth wraidd y parth ac yn bennaf mae'n lle i bob ysgol ac ymarferydd creadigol gyfathrebu a gweithio mewn partneriaeth; mae ganddo swyddogaeth eang i gynorthwyo ysgolion i gyfoethogi dysgu ac addysgu drwy fabwysiadu dulliau creadigol, gyda meysydd penodol sy'n galluogi athrawon i gael mynediad i:

llwyfan ar gyfer astudiaethau achos o arfer gorau sy'n ymwneud â'r celfyddydau
calendr digwyddiadau, sy'n dangos gweithgarwch rhanbarthol i ysgolion gymryd rhan ynddynt
rhwydweithiau pwrpasol ar gyfer athrawon a gweithwyr proffesiynol celfyddydol i drafod gweithgaredd
Cyfleoedd ac adnoddau DPP i athrawon
cysylltiadau i'r Rhwydweithiau Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg

Mae'r Parth Dysgu Creadigol hefyd yn cyfrannu at gefnogi ysgolion wrth symud tuag at y cwricwlwm newydd drwy gael gwared ar rwystrau sy'n atal athrawon ac ymarferwyr celfyddydol rhag cydweithio'n effeithiol a thrwy hynny gynyddu 'r cyfleoedd i ysgolion ymgysylltu â phrofiadau celfyddydol a diwylliannol.

hwb.wales.gov.uk/creativity

Rheoli'r rhaglen

Llywodraethu

Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn cadeirio cyfarfodydd chwarterol Grŵp Llywio Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau, ac mae hyn yn cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Estyn. Mae'r grŵp llywio hwn yn cael gwybodaeth gan is-grwpiau eraill sydd wedi'u sefydlu i reoli a monitro'r rhaglen.

Gwerthusiad o'r rhaglen

Mae gwerthusiad annibynnol yn cael ei gynnal drwy gydol y rhaglen. Yn dilyn cystadleuaeth agored, dyfarnwyd y contract hwn i gonsortiwm dan arweiniad y cwmni ymgynghori o Aberaeron, Wavehill. Cyhoeddwyd ein hadroddiad gwerthuso cyntaf, Theori Newid ar 20 Gorffennaf 2017.

Prosiect Ymchwil Dysgu Creadigol OECD

Mae Cymru yn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil rhyngwladol sy'n cael ei gydlynu gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Mae'r prosiect hwn, sy'n cynnwys dwsin o wledydd ledled y byd, a'i nod yw helpu i ddatblygu a mireinio'r ddealltwriaeth o sut y gellir asesu sgiliau meddwl yn greadigol a beirniadol mewn lleoliad addysgol. Mae offeryn asesu wedi'i ddatblygu gan yr OECD a bydd yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion dethol ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ysgol 2016/17. Bydd dros 800 o ddysgwyr a'u hathrawon yn cymryd rhan mewn profion syml ar-lein yn nhymor yr Hydref a'r Gwanwyn. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn rhannu'r farn bod ein rhaglen Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau yn rhoi cyfle gwych i ni edrych yn fanwl ar ein hymagwedd yng Nghymru tuag at ddatblygu sgiliau meddwl yn greadigol a beirniadol ymhlith dysgwyr Cymru. Rydym yn gyffrous ein bod yn cymryd rhan yn y prosiect pwysig hwn ac yn ddiolchgar i'r ysgolion sydd wedi cytuno i fod yn rhan o'r gweithgaredd asesu.

Astudiaethau Achos

Cydweithio Creadigol

Dreamscape: Cydweithio Creadigol rhwng National Theatre Wales ac Academi Ocean Park

Roedd y prosiect hwn yn gydweithiad rhwng National Theatre Wales ac Academi Ocean Park sy’n ganolfan ar gyfer dysgu amgen yn y Sblot, Caerdydd. Gweithiodd National Theatre Wales gyda 312 disgybl i ddyfeisio darn creadigol, gan gynnig iddynt y cyfle i gydweithio ag amrywiaeth o broffesiynolion theatr i archwilio eu creadigrwydd ac annog cynnydd ynddynt mewn cyrhaeddiad cwricwlwm, presenoldeb yn yr ysgol ac ymgysylltu’r rhieni â'r ysgol.

Drwy amrywiaeth o weithdai cynigiwyd i ddisgyblion y cyfle i ymchwilio i bynciau a oedd yn anghyfarwydd iddynt, megis athroniaeth a seicoleg. Esgorodd hyn ar drafodaethau a gweithdai a soniai am bwysigrwydd bod yn weithgar a grym y llais - gan gynnig i ddisgyblion ifainc sydd wedi ymddieithrio'r cyfle i leisio eu rhwystredigaeth drwy fynegiant creadigol.

Prif ganlyniad y prosiect oedd y ddwy sesiwn rannu derfynol i gynulleidfa o 56. Daeth llywodraethwyr ysgol, arweinwyr diwylliannol a pherchnogion busnes ynghyd â rhieni a gwarcheidwaid y disgyblion, artistiaid grime, brêcddawnswyr ac ati a gwmpasai ystod eang o ran oedran a diwylliant. Daethant at ei gilydd i werthfawrogi gwaith y disgyblion.

Penderfynodd y disgyblion greu tair ystafell ddianc i beri bod y gynulleidfa’n teimlo’n annifyr a’u gorfodi i ddefnyddio eu gallu deallusol i ddianc, gyda nemor dim arweiniad. Adlewyrchai hyn deimladau'r disgyblion am fod yn yr ysgol.

Drwy archwilio ymhellach y thema drwy gyfrwng gweithdai symud, barddoniaeth brotest a sesiynau ysgrifennu geiriau yn null grime, creodd y disgyblion dair ystafell i gynrychioli'r tri gwahanol fath ar garchar: carcharu’n gorfforol (ystafell garchar); carcharu’n seicolegol drwy broblemau iechyd meddwl neu labeli a roddwyd arnoch (ystafell y dyfodol); carcharu gan gael enw am wneud rhywbeth neu’r straeon a adroddir amdanoch (ystafell yr ysbrydion).

Bob amser yr arweiniai’r disgyblion y ffordd yn y prosiect, drwy naill ai cynhyrchu syniadau, ysgrifennu geiriau, recordio sain neu ddylunio setiau. Darparai National Theatre Wales lwyfan creadigol a lle diogel i’r ysgol archwilio, dysgu a thyfu.

Cydweithio Creadigol

Cymreig Sounds of Music

Cydweithiodd cynyrchiadau Forget-Me-Not ag ysgol arbennig Ysgol Hen Felin a Choleg y Cymoedd i greu cynhyrchiad amlieithog o Sound of Music Cymru sy’n cynnig sawl cyfle i ddarparu nifer o brofiadau celfyddydol o safon. Addaswyd The Sound of Music o safbwynt Cymru.

Datblygwyd sioe yn sgil cyfnod helaeth o ymchwil, yn sgil cyfres o glyweliadau, gweithdai ac ymarferion dwys. Cynnwys yn ddi-dor ymgyfranogwyr a’r gymuned ysgol/coleg ehangach drwy greu clipiau amlgyfrwng, perfformiadau theatr gerddorol a dylunio’r propiau/set. Roedd myfyrwyr coleg yn cael cyfleoedd i goreograffio dawnsfeydd a chyfarwyddo golygfeydd unigol.

Diolch i gynllun prosiect gwych a gafodd ei strwythuro'n dda, cynhyrchodd pob ymarfer unigol adran benodol o’r perfformiad, wedi'i hwyluso gan y tîm cynhyrchu, ond yn y pen draw wedi’i datblygu a’i mireinio gan ymgyfranogwyr a oedd yn cefnogi a chyfarwyddo ei gilydd drwy gydol y prosiect.

Canlyniad hyn oedd safon benigamp i’r ymarferion a’r perfformiad.

Meithrinai Forget-Me-Not hefyd berthynas weithiol dda gydag amrywiaeth o randdeiliaid eraill a gydweithiai ar y prosiect hwn, gan gynnwys arbenigwyr ym maes technoleg gynorthwyol, technegwyr goleuo/sain ac ymgynghorwyr cydraddoldeb lleol - cynorthwyodd pob un o'r rhain wrth lunio'r prosiect.

Un o’r canlyniadau allweddol oedd datblygu ymhellach fodel cynhwysol sy'n integreiddio’r disgyblion gyda myfyrwyr Coleg y Cymoedd. Roedd ymgyfranogwyr yn yr oed 11-19 ag anableddau/anghenion dysgu arbennig, anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu cymedrol ac anawsterau dysgu difrifol. Cafodd 14 prif gymeriad gymwysterau Agored Cymru lefel mynediad 3 a 1 a chafodd myfyrwyr Coleg y Cymoedd gredydau tuag at fframwaith eu coleg. Astudiodd gweddill y cast bynciau sy'n ymwneud ag uned y Cornerstones Blitz. Roedd ethos cyffredinol y prosiect yn ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cyfrannodd y prosiect hwn at wireddu amcanion tymor hir yr ysgol a hithau’n ysgol flaengar gyda'r celfyddydau creadigol a'r cyfryngau erbyn hyn yn uchel ar ei hagenda. Mae’n parhau i adeiladu a chynnal y cysylltiadau creadigol sydd wedi'u sefydlu gyda sefydliadau allanol megis Coleg y Cymoedd a Forget-Me-Not.

Cydweithio Creadigol

Cydweithio dawns â Dawns i Bawb

Roedd y prosiect hwn yn gydweithiad creadigol rhwng Dawns i Bawb a 6 ysgol leol dros 12 wythnos a ganolbwyntiai ar gryfhau’r cysylltiadau rhwng ysgolion a’r gymuned leol drwy ddathlu'r Gymraeg a diwylliant Cymru drwy gyfrwng dawns. Mae Dawns i Bawb yn sefydliad dawns cymunedol arobryn sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan weithio ar gynyrchiadau mawr ac yn grwpiau llai o unigolion.

Mewn trafodaeth gyda Dawns i Bawb, cynlluniodd pob ysgol ei phrosiect ei hun, ei hymgysylltiad â’r gymuned a’i chynnyrch terfynol. Dyma a gafwyd:

Ysgol Biwmares - y thema oedd yr Ail Ryfel Byd. Gwahoddwyd aelodau o'r gymuned i'r ysgol i rannu eu profiadau a hefyd gofynnwyd i'r plant ymchwilio gyda'u teuluoedd. Defnyddiwyd y ffrwyth wedyn yn y broses greadigol. Gorffennodd y prosiect gyda pharti dathlu. Daeth teuluoedd a ffrindiau gydag aelodau o'r gymuned a gyfrannodd at y prosiect a phobl o'r cartref gofal lleol.

Ysgol y Ffridd - ffynonellau ynni gwahanol oedd y ffocws. Mae gan Gyngor Ynys Môn raglen Ynys yr Ynni sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio datblygiadau ynni sy’n garbon isel. Diweddglo’r prosiect oedd cyflwyniad cyhoeddus. Cludwyd gwaith ffilm a chelf o'r prosiect i Feddygfa Gwalchmai i’w harddangos yn y dyfodol rhagweladwy i’r gymuned leol.

Ysgol Llangaffo - y thema oedd Santes Dwynwen. Gwahoddwyd aelodau o'r gymuned i'r ysgol i siarad â'r plant, gan gynnwys ficer yr eglwys leol a ymwelai’n rheolaidd. Bydd yr ysgol yn cau ar ddiwedd y flwyddyn felly gweithiodd y plant gyda’r artist i greu rhywbeth i’w hatgoffa am yr ysgol a’r prosiect.

Ysgol Llanllyfni - y thema oedd Blodeuwedd. Gallai ymgyfranogwyr ddehongli themâu a syniadau gan esgor ar berchnogaeth o’r gwaith a chyfrifoldeb drosto. Creodd ymgyfranogwyr flodau. Wedyn gofynasant i rywun yn y teulu gofnodi ar y blodyn enw ei hoff flodau a’r rheswm yn ogystal â stori/atgof. Aethant i gyd wedyn i gynrychioli’n haniaethol Flodeuwedd Llanllyfni. Harddodd y blodau set y perfformiad terfynol.

Ysgol Nefyn - y thema oedd Patagonia. Mae Nefyn â chysylltiadau agos â Phatagonia felly mae’n rhan bwysig o’i hanes lleol. Cynhaliwyd perfformiad yn yr awyr agored i annog holl aelodau'r gymuned i fod yn bresennol. Creodd y plant brintiau dwylo a ddosbarthwyd ledled y gymuned i bobl ysgrifennu arnynt negeseuon. Ychwanegwyd y rhain wedyn at bostyn i greu coeden yn y gymuned. Cynrychiolai hyn dabl achau i ddangos sut y mae pawb yn gysylltiedig â’i gilydd.

Ysgol Bro Gwydir - roedd y prosiect am dreftadaeth a diwylliant ac archwiliodd nifer o themâu diwylliannol. Perfformiodd un grŵp ddarn o waith i deuluoedd yn rhan o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ac wedyn cymerodd plant a theuluoedd ran mewn gweithdy dawns cynhwysol gyda’i gilydd. Cymerodd y dosbarth iau ei berfformiad i'r cartref preswyl lleol a gymerodd ran wedyn mewn gweithdy cynhwysol gyda'i gilydd.

Un o'r prif ffactorau i ddod o’r prosiect hwn oedd yr ymdeimlad o gydberchenogaeth pan gafodd yr holl ymgyfranogwyr y cyfle i ddathlu eu cymuned eu hunain. Cred Dawns i Bawb yn gryf yn y manteision y gall dawns gymunedol eu cynnig i unigolion a chymunedau ac ymdrecha i fod yn eiriolwr dawns i hyrwyddo twf personol, llesiant a hunaniaeth ddiwylliannol. Mae’r prosiect ei hun ar ben ond mae’n fyw o hyd wrth fod pobl yn ei drafod a’i gofio ac eisiau aros gyda’i gilydd a pharhau i weithio.

Cydweithio Creadigol

Band Cory yn cydweithio ag Ysgol Gyfun Rhymni

Ystyrir Band Cory yn brif fand pres y byd (gweler fourbarsrest.com) oherwydd iddynt ennill sawl gwobr: Pres mewn Cyngerdd; Pencampwriaethau Ewrop; Pencampwriaeth Agored Prydain; Pencampwriaeth Genedlaethol Prydain.

Cydweithiodd Band Cory ag Ysgol Gyfun Rhymni i ddarparu amrywiaeth o fanteision addysgiadol creadigol i ddisgyblion uwchradd, athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol sy'n gysylltiedig â Band Cory. Datblygasant sesiynau sy’n archwilio cyfansoddi cerddorol, perfformio offerynnau pres a tharo a threftadaeth cerddoriaeth bres. Targedid disgyblion heb ddiddordeb yn y maes neu wybodaeth o gerddoriaeth bres.

Agweddau arloesol y prosiect hwn oedd: cysylltu pobl nad oeddynt yn gerddorion â cherddorion o safon ryngwladol; cefnogi ymgyfranogwyr i gysylltu â'u treftadaeth gerddorol; herio’r canfyddiad am gerddoriaeth band pres ymhlith pobl ifainc; cynnig dilyniant drwy'r Academi Cory os oes diddordeb.

Roedd y prosiect hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gynyddu eu cyfleoedd creadigol, datblygu eu sgiliau a'u dealltwriaeth o'r rhwydwaith band pres a nodi effeithiolrwydd y dull hwn o ran hybu dysgu yn yr ysgol. Hefyd, mae'r prosiect yn caniatáu i’r Cory gomisiynu darn newydd o gerddoriaeth 'Fanfare Rocks Rhymney' a oedd mor boblogaidd wrth ei pherfformio’n gyntaf a chaiff ei chyhoeddi a bydd ar gael yn eang i fandiau.

Ewch i Weld

Ysgol Gynradd Sirol Maesyrhandir
Gangsta Granny, Theatr Hafren

Cafodd yr ysgol grant Ewch i Weld i gymryd eu holl ddisgyblion CA2 (7-11 oed) i wylio Gangsta Granny yn Theatr Hafren. Bu'r ysgol yn darllen llyfrau David Walliams gan gydnabod y câi'r profiad newydd hwn effaith gadarnhaol ar ddysgu'r disgyblion yn y tymor hwy. Cyn yr ymweliad ymgymerodd y plant â phrosiect Llythrennedd am y llyfr hwn; dysgasant am strwythur corfforol llyfrau a sut yr adeiledir llyfr: nodyn oddi wrth yr awdur; tudalennau teitl; strwythur y stori; ac yn y blaen.

“Mae gwerth yr ymweliad theatr hwn yn anfesuradwy. I rai o'n plant dyma oedd eu profiad cyntaf o berfformiad byw. Gofynnodd un o'r plant, ‘Sut roedd y bobl wedi dianc o'r teledu?' Ysbrydolwyd y plant gan y profiad hwn a oedd yn gadarnhaol o safbwynt cymdeithasol a chreadigol“ —Uwch Gweinyddwr

Roedd adborth yr athrawon yr un mor frwd ag adborth y disgyblion, “Roedd rhieni un plentyn yn poeni y byddai ei anghenion arbennig yn peri bod yr ymweliad yn mynd yn ormod iddo. Ond perswadiais y rhieni i adael iddo ddod gan addo y cymerwn ef allan i ymlonyddu eto ped âi'n rhy gyffrous. Eisteddodd y plentyn, ei geg ar agor, ar ymyl ei sedd drwy gydol y perfformiad gan afael yn fy llaw, gwenu a chwerthin. Roedd yn hyfryd i'w weld.” —Athro

Ewch i Weld

Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant
Merch yr Eog, Canolfan Mileniwm Cymru

Ymgeisiodd am grant Ewch i Weld i gefnogi gwaith astudio 15 disgybl Lefel A (16-18 oed) drwy fynd i berfformiad o Ferch yr Eog yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i gefnogi Cymraeg yn CA5 a chyfleoedd trawsgwricwlaidd mewn Ffrangeg, Drama/Theatr. Rhoddwyd y cyfle i'r disgyblion fynychu'r perfformiad a sesiwn holi ac ateb ar ei ôl.

“Hoffwn ddiolch am yr holl gefnogaeth a gawsom a pha mor rhwydd oedd ymgeisio. Mwynhaodd yr holl ddisgyblion y profiad gan ddweud yr hoffent weld rhagor o berfformiadau yn y Gymraeg yn y dyfodol - roedd yn well o lawer na darllen y llyfr yn unig." -Athro

Ymgeisiodd yr ysgol am grant Ewch i Weld i ymgysylltu â'r uned gyfryngol A2 a'r cwrs A2. Yn ôl yr ysgol gall y disgyblion erbyn hyn rannu eu profiad yn eu harholiad llafar a bod rhai o Flwyddyn 12 wedi trafod y cynhyrchiad yn eu gwaith cwrs yn ysgrifenedig.

Ewch i Weld

Ysgol Gynradd Ynystawe
Oriel Mission, Abertawe

Yn sgil ymgeisio'n llwyddiannus i Ewch i Weld, cymerodd yr ysgol Ysgol Gynradd Ynystawe Abertawe 25 o ddisgyblion (yn yr oed 9-11) i Oriel Mission yn Abertawe i ddysgu sut i greu arddangosfa ar gyfer eu celfweithiau.

Nod y prosiect nod oedd hyrwyddo creadigrwydd a datblygu uwch sgiliau meddwl sy'n drosglwyddadwy ar draws eu dysgu.

Astudiodd y disgyblion waith Anne Gibbs yn yr arddangosfa ‘Iaith Glai’ a guradwyd gan Geri Jones a chawsant y cyfle i astudio sut mae curadu'n effeithiol.

“Cynigiodd yr ymweliad i'n plant gyfle deinamig i ddysgu mewn ffordd ddychmyglon ac archwilio pethau newydd mewn amgylchedd cyfoethog a sbardunol. Roedd yn fodd iddynt berchnogi eu dysgu eu hunain a choleddu gwaith artist cyfoes o Gymru i archwilio a datblygu eu chwilfrydedd eu hunain a mynd yn artistiaid yn eu rhinwedd eu hunain. Drwy'r cyfleoedd gwerthfawr hyn caiff y plant sail i'w creadigrwydd a ffordd o ymgysylltu â'r byd o'u cwmpas”—Sarah Williams, Dirprwy Bennaeth

“Ysbrydolwyd y plant, cynyddwyd eu brwdfrydedd a sbardunwyd eu dychymyg a'u creadigrwydd gan y cyfle hwn. Datblygwyd yn bellach eu sgiliau entrepreneuraidd a chodwyd y safon o ran yr hyn y disgwyliant o'u gwaith eu hunain. Diolch am gyfle unigryw.”—Helen Houston-Phillips, Pennaeth

Bydd y disgyblion yn parhau â'r gwaith hwn yn yr ysgol a chawsant gynnig caredig iawn i arddangos a gwerthu eu gwaith unwaith eto dros gyfnod y Nadolig.

Ewch i Weld

Ysgol Merllyn
Gwyl y Gelli

Yn sgil ei chais llwyddiannus i Ewch i Weld, cymerodd Ysgol Merllyn, Sir y Fflint 44 o ddisgyblion yn yr oed 9-11 i Ŵyl y Gelli ym Mai 2016 i fynd i'r gweithgareddau cyn yr ŵyl a dargedai ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn benodol.

Daw'r plant o ardal gydag amddifadedd sylweddol a roedd moddi iddynt ymweld â gweithdai megis yr un Shakespeare a sioe wyddonol fenywaidd. Gwrandawsant ar sgyrsiau i'w hysbrydoli gan gyflwynwyr CBBC a gwyliasant rai o'r gweithgareddau ymylol, gweithdai dawns a siarad yn gyhoeddus.

Y nod oedd rhoi i'r plant brofiad llenyddol y tu hwnt i'r hyn y gellid ei gynnig yn yr ysgol a roes gweithdy Shakespeare i'r plant werthfawrogiad o lenyddiaeth hollol y tu hwnt i gwricwlwm yr ysgol. Ar ôl y daith, gallai'r athrawon gynllunio dysgu seiliedig ar yr awduron a defnyddiasant y gyfres o lyfrau, How To Train Your Dragon, i gynllunio ysgrifennu creadigol. Mae darllen yn hanfodol a hoffem i bob plentyn ddwlu ar ddarllen.